
Frances Parker
Swffragét a ffeminist rhonc o Seland Newydd oedd Frances Mary "Fanny" Parker sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched ac am iddi dderbyn cyfnodau o garchar am ei chred a'i gweithredu milwriaethus dros hawliau menywod. Fe'i ganed yn Otago ar 24 Rhagfyr 1875 a bu farw yn Arcachon, ger Bordeaux yn 1924. Ganwyd Frances Parker yn Little Roderick, Kurow, Otago, Seland Newydd, yn un o bump o blant Frances Emily Jane Kitchener a Harry Rainy Parker. Roedd ei theulu'n byw yn y Waihao Downs Homestead o 1870 i 1895, pan symudon nhw i Little Roderick. Mae Little Roderick yn rhan o Station Peak ar ochr ogleddol Afon Waitaki, Waimate District. Daeth Parker o gefndir cefnog ac roedd yn nith i'r Cadlywydd Arglwydd Kitchener a dalodd am ei haddysg yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt. Byddai ei hewythr enwog yn ddiweddarach yn datgan fod ymwneud â mudiad hawliau merched yn ei ffieiddio.